Cilla Black | |
---|---|
![]() | |
Ganwyd | 27 Mai 1943 ![]() Vauxhall ![]() |
Bu farw | 1 Awst 2015 ![]() o strôc ![]() Estepona ![]() |
Label recordio | EMI, Bell Records, Parlophone Records ![]() |
Dinasyddiaeth | y Deyrnas Unedig ![]() |
Galwedigaeth | canwr, actor, cyflwynydd teledu, cerddor, canwr-gyfansoddwr, game show host ![]() |
Arddull | cerddoriaeth boblogaidd ![]() |
Priod | Bobby Willis ![]() |
Gwobr/au | OBE ![]() |
Gwefan | http://www.cillablack.com/ ![]() |
Roedd Cilla Black OBE (ganed Priscilla Maria Veronica White; 27 Mai 1943 – 1 Awst 2015) yn gantores, cyfansoddwraig a chyflwynwraig teledu o Loegr. Ar ôl gyrfa lwyddiannus fel cantores, aeth Black ymlaen i fod y cyflwynwraig benywaidd i gael ei thalu fwyaf yn hanes teledu Prydeinig, yn ei chyfnod.
Cychwynodd ei gyrfa fel cantores yn 1963 a chyrhaeddodd ei senglau "Anyone Who Had a Heart" (1964) a "You're My World" (1964) rif un. Cafodd lwyddiant gyda 11 o ganeuon a gyrhaeddodd y Top Ten rhwng 1964 a 1971. Ym Mai 2010, dangosodd ymchwil gan y BBC (BBC Radio 2) mai ei fersiwn hi o "Anyone Who Had a Heart" oedd y sengl gan ferch a werthodd fwyaf drwy'r 1960au.[1]
Roedd yn 72 oed ac yn fwyaf adnabyddus am gyflwyno’r cyfresi Blind Date a Surprise, Surprise. Bu farw'i phriod Bobby Willis, a oedd hefyd yn Rheolwr iddi, yn 1999; roedd ganddynt ddau fab. Bu farw yn ei chartref yn Marbella, Sbaen.[2]
|work=
(help)